Trywydd Glan yr Afon

Taith Gron

2.5 milltir / 60 munud

Cewch gychwyn y trywydd hwn naill ai o Drefriw neu o’r bont grog dros Afon Conwy ger gorsaf reilffordd Llanrwst (Gogledd). 

O Drefriw, mae’r trywydd yn cychwyn y tu ôl i’r toiledau cyhoeddus yn y pentref ger y prif maes parcio. Cerddwch ar hyd yr amddiffyniadau llif neu gob ac wedyn dilynwch Afon Crafnant wrth iddi ymdroelli drwy’r dyffryn. Gallwch weld nifer o ystumllynoedd a ffurfwyd pan amgylchynwyd y doleniadau yn yr afon yn llwyr. Mae’r rheilffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog ar lan gyferbyn yn ogystal â’r briffordd gogledd-de, yr A470. Ymunwch â Thrywydd 1  wrth y bont grog er mwyn dychwelyd i Drefriw.

Mae’r trywydd hwn wedi cael ei wellhau yn ddiweddar ac mae’n cynnwys gatiau yn hytrach na chamfeydd.

Os gwelwch yn dda, cadwch gwn dan reolaeth am fod, yn aml, bydd anifeiliaid fferm mewn nifer o’r caeau a fyddwch yn eu croesi.

Heron
Trail 2 Map