Taith Gwlyptir

Taith Gron

Milltir / 30 munud

Mae’r trywydd hwn yn fforchio oddi ar Drywydd 2 sy’n cychwyn wrth y toiledau cyhoeddus yng nghanol y pentref. Dilynwch Drywydd 2 ac Afon Crafnant cyn croesi’r afon ar y bont droed. Mae’r trywydd yn dilyn llwybr tarw o gwmpas yr amddiffyniadau llif neu gob. Byddwch yn mynd heibio i westy Princes’ Arms sydd ar safle ychydig uwchben  hen gei Trefriw, o ble, yn ystod y canrifoedd diwethaf, hwyliodd cychod masnach a phleser rhwng  y pentref a phorthladd Conwy.

Trwy’r holl daith mae gan y trywydd hwn gatiau yn hytrach na chamfeydd.

Os gwelwch yn dda, cadwch gwn dan reolaeth am fod, yn aml, bydd anifeiliaid fferm yn y caeau hyn.

Trail 3 Map