Rhaeadr y Tylwyth Teg

Taith Gron

0.5 milltir / 25 munud  

Mae dringfa fer o’r ffordd fawr y tu ôl i Siop Glanrafon yn mynd â chi i wlad tylwyth teg go iawn, yn rhaeadrau a choetir yng nghanol y pentref.

Enwyd Rhaeadr y Tylwyth Teg Trefriw gan y Fictoriaid, a oedd wedi’u cyfareddu gan y tylwyth teg ac a nododd lawer o fannau swynol fel cartrefi i’r creaduriaid mytholegol, bychan bach hyn.

Ond pa un a ydych yn credu yn y tylwyth teg ai peidio, mae hwn yn fan hudolus. 

Ffurfiwyd y rhaeadr sy’n rhedeg drwy ganol y pentref yn ystod oes ddiwethaf yr iâ ryw 20,000 o flynyddoedd yn ôl pan gannwyd Dyffryn Conwy i’w ffurf U bresennol gan rewlif.  Wrth i’r rhewlif symud i lawr y dyffryn tuag at y môr yng Nghonwy, fe dorrodd waelod y llednant i ffwrdd gan adael Afon Crafnant i raeadru i lawr dros y rhaeadr a welwch chi heddiw.

Yn yr haf, mae’r rhaeadr yn tynnu ati’n ffrwd fain wrth i’r dwr gael ei ailgyfeirio drwy’r bibell fawr sydd i’w gweld gyferbyn i greu trydan yn y felin wlân islaw.  Yn y gaeaf, mae hi’n olygfa wahanol yn aml gyda chenllif o ddwr yn pwnio i lawr ac yn erydu’r creigiau ar waelod y rhaeadr yn araf i ffurfio plymbyllau dwfn.

Fairy
Fairy Falls
Trefriw Village Centre