Llyn Geirionydd a Crafnant

Taith Gron

5 milltir / 3 awr

Mae Llynnoedd Geirionydd a Chrafnant ill dau o fewn cyrraedd rhwydd i gerddwyr o Drefriw yn dilyn y trywydd hwn, sy’n fforchio oddi ar Drywydd 4 wrth y bont uwchben Rhaeadr y Tylwyth Teg.  Mae’r trywydd yn mynd â chi drwy dir coediog gyda golygfeydd braf o harddwch dyffryn Crafnant cyn cyrraedd pen dwyreiniol Llyn Geirionydd a mynd o’i gylch i Lyn Crafnant.  Unwaith y byddwch wrth Lyn Crafnant gellwch ddilyn llwybrau Menter Coedwigaeth o amgylch y llyn.

I ddychwelyd i Drefriw, ewch i lawr y ffordd ryw ychydig cyn ymuno â Thrywydd 7.

O’r maes parcio yng nghanol y pentref croeswch y briffordd o flaen y Felin Wlân a throwch i’r dde. Ar ddiwedd y rhes o siopau, gyferbyn Gwesty Fairy Falls, trowch i’r chwith a cherdded i fyny’r allt. Ar ôl ychydig o lathenni trowch i’r chwith i ymuno â Thrywydd 4 sy’n mynd â chi hyd at Raeadr y Tylwyth Teg. O’r rhaeadr cerddwch hyd at y bont droed a dilynwch gyfeirbwyntiau Trywydd 5.

Mae’r trywydd yn mynd â chi i fyny ac i mewn i goedwigoedd uwchben y pentref, ac yn dringo yn raddol hyd at 680 o droedfeddi uwchben Drefriw cyn gwastatau ar hyd hen drywydd mwyngloddio sydd, yn y pen draw, yn dod â chi i’r llyn cyntaf – Llyn Geirionydd.

Mae ffordd gul yn dilyn glan y llyn ar yr un ochr a llwybr garw ar y llall, sy’n caniatau i chi wneud amgylch o’r llyn ar droed. Hefyd, mae nifer o lwybrau eraill sy’n arwain i’r rhwydwaith o lwybrau a thraciau yng Nghoedwig Gwydyr.

Mae Trywydd 5  yn mynd ar hyd pen dwyreiniol y llyn ac yn cylchu  bryn o gwmpas gweithfeydd hen bwll ac yn dod â chi allan wrth maes parcio Menter Coedwigaeth o dan Lyn Crafnant.

Mae Llyn Crafnant ychydig o ganoedd o lathenni i fynu ffordd gul. Oddi yma mae trywyddau Menter Coedwigaeth sy’n cylchu Llyn Crafnant ac yn cysylltu â Llyn Geirionydd.

Er mwyn dychwelyd i Drefriw disgynwch y ffordd sy’n arwain i lawr o’r maes parcio cyn ymuno â Thrywydd 7 a fydd yn mynd â chi yn ôl i Drefriw gan osgoi rhan gul o’r ffordd.

Klondike Mine Plant
Llyn Geirionydd
Llyn Crafnant
Trail 5 Map