Taith Goedwigol Taith Gron

Taith Gron

2¼ milltir /  awr a 30 munud

O’r maes parcio yng nghanol y pentre, croeswch y briffordd o flaen y Felin Wlân a throwch i’r dde. Ar ddiwedd y rhes o siopau, gyferbyn Gwesty Fairy Falls, trowch i’r chwith a cherdded i fyny’r allt. Cerddwch i fyny rhan serth o’r ffordd am ryw 300 llathen,ac yna, gan ddilyn y cyfeirbwyntiau, fforchiwch i’r dde i fyny ‘r ffordd sydd, yn y pen draw, yn arwain i Lyn Cowlyd. Wedi 100 llathen, trowch i’r dde i mewn i’r goedwig.

Yn y goedwig mae nifer o safleoedd sy’n cynnig golygfeydd braf dros Ddyffryn Conwy. Wedi cyrraedd safle ucha’r daith (wrth y ‘Sun Seat’), cewch weld copa Moel Siabod (3000 troedfedd).

Mae Trywydd 6 yn eich arwain yn raddol drwy’r goedwig ac yn ôl i’r pentref.

(Mae Trywydd 7 yn gwahanu â Thrywydd 6 ar ben y goedwig ac yn disgyn i Ddyffryn Crafnant. Os trowch i’r dde ar ben y goedwig i fyny’r ffordd gul, mae’r ffordd serth yn arwain drosodd i ddyffryn Llyn Cowlyd. O  Lyn Cowlyd mae llwybrau sy’n cysylltu â Llyn Eigiau, Cwm Eigiau a chopaon 3000 troedfedd y Carneddau).

View from Trail 6 Viewpoint
Trail 6 Map