![]() |
|
![]() |
Taith Coedwigoedd a DyffrynnoeddTaith
Gron 3¼ milltir / awr a 45 munud O’r
maes parcio yng nghanol y pentre, croeswch y briffordd o flaen y Felin
Wlân a throwch i’r dde. Ar ddiwedd y rhes o siopau, gyferbyn Gwesty
Fairy Falls, trowch i’r chwith a cherdded i fyny’r allt. Cerddwch i
fyny rhan serth o’r ffordd am ryw 300 llathen ,ac yna, fforchiwch
i’r dde i fyny ffordd Cowlyd. Wedi 100 llathen, trowch i’r dde i
mewn i’r goedwig. Mae
Trywydd 7 yn gwahanu â Thrywydd
6 ar ben y goedwig. Dilynwch
Drywydd 7. Bydd y trywydd yn eich arwain drwy iard Gelli Newydd, lle
cewch weld yr olwyn ddwr wedi’i adfer. Os bydd Aneurin gartref, fel
arfer bydd yn hapus i’ch dangos ei weithdy sy’n cael ei bweru gan
ddwr. O Elli Newydd , mae’r trywydd yn disgyn drwy goetir i Ffordd Crafnant. Trowch i’r dde ar y ffordd am 50 llathen cyn troi i’r chwith i groesi’r afon. Yna, mae’r trywydd yn dilyn hen drywydd mwynglowyr i Fferm Gymannog (lle cewch weld olwyn ddwr wedi’i adfer arall) ac yna drwy gaeau ac yn ôl i’r pentref heibio i Raeadr y Tylwyth Teg. |
![]() |
|
![]() |
|
|
|
|