![]() |
|
![]() |
Eglwys LlanrhychwynTaith
Gron 4 milltir / 2 awr 30 munud O’r
maes parcio yng nghanol y pentre, croeswch y briffordd o flaen y Felin
Wlân a throwch i’r dde. Ar ddiwedd y rhes o siopau, gyferbyn Gwesty
Fairy Falls, trowch i’r chwith a cherdded i fyny’r allt. Ar ôl
ychydig o lathenni, trowch i’r chwith ar Drywydd
4 a fydd yn eich arwain i Raeadr y Tylwyth Teg. O’r
rhaeadr, ewch i fyny i’r bont droed a dilynwch gyfeirbwyntiau Trywydd
5. Mae
Trywydd 5 yn
eich arwain i fyny ac i mewn i goedwigoedd uwchben y pentref. Mae’r
trywydd yn dringo yn raddol hyd at 680 troedfedd uwchben Trefriw cyn i Drywydd
8 wahanu â Thrywydd
5. Yna mae Trywydd 8 yn mynd i fyny llethr serth i
gasgliad o dai ym Mhenrallt. Mae Penrallt yn gorwedd mewn pant naturiol.
Mae’n debyg bod y pant hwn yn llyn bas ar ôl oes ddiwethaf yr iâ.
Dros y blynyddoedd mae hwn wedi’i sychu a’i lenwi â llaid i adael
cors sydd wedi cael ei goloneiddio gan helyg i greu ‘Willow Carr’. Oddi
yma, mae’r trywydd yn troelli o gylch y gymuned fach Llanrhchwyn,
ac yn mynd heibio i’r eglwys chweched canrif adnabyddus. Yn
ystod y 19eg canrif roedd pobologaeth Llanrychwyn yn fwy na phoblogaeth
Trefriw, gyda 87 o dai wedi’u cofnodi a 376 o bobl. Erbyn 1851 roedd y
boblogaeth wedi cynyddu i 586, yn bennaf o ganlyniad ffyniant y
diwydiant mwyngloddio. O Eglwys Llanrychwyn, mae Trywydd 8 yn eich arwain i mewn i Goedwig Gwydir cyn rhan fer o ffordd gul ac wedyn llwybr sy’n disgyn drwy goetir i waelod Dyffryn Conwy. Mae’r trywydd yn croesi y B5106 (Trefriw i Lanrwst). RHYBYDD: Gall y ffordd hon fod yn beryglus a dylech fod yn ofalus iawn. Mae Trywydd 8 yn mynd â chi ar hyd drywydd fferm, llwybr cul, ac wedyn ymlaen i’r Cob (amddiffyniadau llif) ac ar hyd Afon Conwy i’r bont grog. Er mwyn dychwelyd i Drefriw, dilynwch Drywydd 1 neu estynwch eich taith gan ddilyn Trywydd 2 i wneud cylch yn ôl i’r pentref. |
![]() |
|
![]() |
|
![]() |
|
![]() |
|
|
|
|