![]() |
|
![]() |
Llyn CowlydTaith
Hamdden Eryri 5½
milltir / 3 awr i Lyn Cowlyd 9
milltir / 4 awr i Gapel Curig 15 milltir / 8 awr i Drefriw heibio Llyn Cowlyd, Capel Curig a Llyn Crafnant Mae’r trywydd hwn yn rhan o Rwydwaith Teithiau Cerdded Hamddenol Parc Cenedlaethol Eryri ac yn darparu cysylltiad â theithiau cerdded yng Nghapel Curig a’r cyffiniau. O’r
maes parcio yng nghanol y pentre, croeswch y briffordd o flaen y Felin
Wlân a throwch i’r dde. Ar ddiwedd y rhes o siopau, gyferbyn Gwesty
Fairy Falls, trowch i’r chwith a cherdded i fyny’r allt. Cerddwch i
fyny rhan serth o’r ffordd am ryw 300 llathen ac wedyn fforchiwch
i’r dde i fyny ffordd Cowlyd. Wedi 100 llathen, trowch i’r dde i
mewn i’r goedwig a dilynwch Drywydd
6. Yn
y goedwig, mae’r trywydd yn gwahanu â Thrywydd
6 ac yn esgyn drwy weithfeydd hen bwll i ddarparu golygfeydd
braf o Ddyffryn Conwy o’r ffordd gul sy’n arwain i dai yn Ardda ac
yn dod i ben wrth fferm Tyddyn Wilym. Drwy’r
buarth, mae’r ffordd yn dod yn drywydd sy’n mynd heibio i eglwys a
ffermdy yn Nhyddyn-du, y ddau yn adfeiliedig. Oddi yma, mae’r trywydd
yn mynd dros rostir agored a all fod yn wlyb iawn yn yr haf ac yn wlyb
dros ben yn y gaeaf. Mae’r trywydd yn mynd heibio i ffermdy
adfeiliedig arall – Brwnog Isaf – ac yna mae’n cwrdd â ffordd
Trefriw-Cowlyd ym Mrwnog Uchaf. Mae Trywydd 9 yn mynd ymlaen hyd at argae Llyn Cowlyd ac wedyn ar hyd lan y gronfa cyn dringo i ben y dyffryn. Mae Trywydd Trefriw yn dod i ben yma a chewch aildroedio’r un llwybr drwy Dyddyn Wilym, neu ddychwelyd i Drefriw drwy’r ffordd gul o Frwnog Uchaf. Fel arall, cewch ymuno â’r trywyddau yng Nghapel Curig a’r cyffiniau i estyn eich taith, gan gynnwys trywydd sy’n dychwelyd i Drefriw drwy Lyn Crafnant (gweler Ordnance Survey 1:25000 Map of Snowdonia: Outdoor Leisure Map 17. Cliciwch yma i lwytho ‘Taflen Deithiau Cerdded Cylchol Capel Curig – pdf 450kb’ i lawr). |
![]() |
|
![]() |
|
![]() |
|
|
|
|