Trywydd Trefriw

Trefriw

Afon Conwy at Gower's Bridge

The Fairy Falls

Llyn Crafnant

Llyn Cowlyd

Prosiect datblygu, a arweinir gan y gymuned, sy’n gwella mynediad at lwybrau troed ym mhentref Trefriw a’r cyffiniau yw Trywydd Trefriw.  

Hyd yma, mae naw trywydd wedi’u datblygu gyda amrywiaeth o bellteroedd ac anhawsterau, ac yn cynnwys amrywiaeth eang o dirwedd.

Mae’r wefan hon yn darparu gwybodaeth am y trywyddau a chysylltiadau â gwybodaeth bellach am Drefriw a’r cyffiniau.

Hawliau tramwy sydd eisoes yn bodoli yw’r trywyddau wedi’u hyrwyddo yma, ond darparir cyfeirbwyntiau er mwyn helpu ymwelwyr i’r ardal. Yn y rhan fwya o’r achosion mae’r cyfeirbwyntiau yn cyfeirio fel bod pobl yn cerdded y trywyddau yn yr un cyfeiriad yn unig, gan gychwyn a gorffen ym mhentref Trefriw.

 

Mae nifer o lwybrau a hawliau tramwy eraill a ellir eu defnyddio gan gerddwyr yn yr ardal. Am fanylion pellach, gweler “Ordnance Survey 1:25000 map of Snowdonia: Outdoor Leisure Map 17"

 

Y Côd Cefn Gwlad

Byddwch yn ddiogel – cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion

Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw

Gofalwch eich bod chi’n gwarchod planhigion ac anifeiliaid, ac ewch â’ch sbwriel gartref

Cadwch eich ci dan reolaeth dynn

Byddwch yn ystyriol o bobl eraill